Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru

Papur Tystiolaeth Llywodraeth Cymru

 

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu’r ymchwiliad hwn i’r cymorth sydd ar gael i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru fel cyfle i gydnabod ymateb cadarnhaol hirsefydlog a pharhaus pobl Cymru a Llywodraeth Cymru i’r rhai sydd wedi ffoi rhag rhyfel, erledigaeth neu drychineb naturiol ac ailadeiladu eu bywydau yng Nghymru.

Er bod y Cynllun Cyflawni ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches wedi’i gyhoeddi lai na blwyddyn yn ôl, bwriadwyd iddo fod yn ‘ddogfen fyw’ a fyddai’n cael ei diweddaru’n rheolaidd. Byddwn yn ystyried argymhellion yr ymchwiliad yn fanwl wrth ailedrych ar y cynllun yn 2017, gan anelu at adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd hyd yma.

 

Cyflymder ac effeithiolrwydd dull Llywodraeth Cymru i ailsefydlu ffoaduriaid drwy Gynllun Llywodraeth y DU ar Adleoli Pobl o Syria sy’n Agored i Niwed

Yn y flwyddyn ers lansio’r Cynllun Adleoli Pobl o Syria sy’n Agored i Niwed (Rhaglen Ailsefydlu Pobl o Syria erbyn hyn) ym mis Medi 2015, mae awdurdodau lleol Cymru wedi ailsefydlu 294 o ffoaduriaid mewn 18 o ardaloedd awdurdodau lleol. Erbyn diwedd 2016, bydd llawer mwy o ffoaduriaid wedi cael eu hailsefydlu, ond ni ddisgwylir i’r Swyddfa Gartref ryddhau ffigurau wedi’u diweddaru tan ddiwedd mis Ionawr 2017.

Mewn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DU ar 7 Medi 2015 ynghylch y bwriad i ailsefydlu 20,000 o ffoaduriaid o Syria, cynhaliodd Llywodraeth Cymru Uwchgynhadledd Ffoaduriaid ar 17 Medi 2015. Trefnwyd yr Uwchgynhadledd drwy gydweithredu â gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru ac arweiniodd at gyhoeddi datganiad ar y cyd ar unwaith gan y rhai a oedd yn bresennol a sefydlu Tasglu Ffoaduriaid Syria a Bwrdd Gweithredu Gweinidogol.

Roedd y strwythurau hyn yn holl bwysig er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru yn cydgysylltu eu hymdrechion a’u bod yn barod i ddechrau derbyn ffoaduriaid. Gan nad oedd llawer o’r 18 o ardaloedd sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun hyd yma wedi ailsefydlu ffoaduriaid o’r blaen, roedd yn bwysig sicrhau eu bod yn deall sut y byddai’r broses yn gweithio.

Mae pob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi ymrwymo i chwarae eu rhan yn y Rhaglen Ailsefydlu Pobl o Syria a chredwn y bydd pob ardal wedi ailsefydlu ffoaduriaid o dan y cynllun hwn cyn diwedd mis Mawrth 2017.

Yn ystod camau cyntaf y rhaglen, roedd diffyg cyfathrebu gan y Swyddfa Gartref ynghylch costau cymwys a fyddai’n cael eu hariannu gan Lywodraeth y DU yn cyflwyno heriau i awdurdodau lleol a oedd yn ystyried faint o ffoaduriaid y gellid eu hailsefydlu yn eu hardaloedd. Fodd bynnag, ers datrys y problemau hyn mae’r Rhaglen Ailsefydlu, ar y cyfan, wedi gweithredu’n llwyddiannus iawn.

Er bod awdurdodau lleol yng Nghymru wedi derbyn rhywfaint o feirniadaeth yn sgil y canfyddiad eu bod yn araf yn ailsefydlu ar ddechrau’r Rhaglen Ailsefydlu, dengys data diweddar fod gwaith paratoi ardderchog wedi arwain at gynnydd sylweddol yng nghyflymder y broses ailsefydlu.

Mae’r tabl canlynol yn dangos y cynnydd diweddar mewn ailsefydlu yng Nghymru:

Chwarter

Rhanbarth

Cynllun ailsefydlu

2015 Ch4

Cymru

45

2016 Ch1

Cymru

33

2016 Ch2

Cymru

34

2016 Ch3

Cymru

182

 

Yn ddiweddar, mae Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR) wedi ymweld â Chymru fel rhan o’r gwerthusiad o’r Rhaglen Ailsefydlu Pobl o Syria. Mae Gonzalo Vargas Llosa, Cynrychiolydd y DU ar gyfer UNHRC, wedi cadarnhau bod y 30 o ffoaduriaid a ailsefydlwyd o dan y cynllun, y siaradodd ei dîm â hwy yn ystod ei ymweliad, oll yn ddiolchgar am y croeso a gawsant mewn cymunedau ledled Cymru. Nodwyd profiadau tebyg yn Wrecsam[1], Ceredigion[2] ac Abertawe[3].

Roedd y croeso cadarnhaol hwn yn gysylltiedig â chyflymder yr ailsefydlu o dan y Rhaglen Ailsefydlu am ei bod yn bwysig bod cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus yn barod i dderbyn pobl sy’n agored i niwed, sy’n aml ag anghenion cymhleth.

 

Effeithiolrwydd y Cynllun Cyflawni ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Cynllun Cyflawni ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches ym mis Mawrth 2016. Gan fod llai na blwyddyn wedi mynd heibio ers ei gyhoeddi, mae’n anodd asesu ei effeithiolrwydd yn gywir. Fodd bynnag, pan gyhoeddwyd y cynllun cyflawni, pwysleisiodd Llywodraeth Cymru ei fod yn ‘ddogfen fyw’ a chroesawn y cyfle y mae’r ymchwiliad yn ei gyflwyno i well effeithiolrwydd y cynllun.

 

Mae’r cynllun cyflawni eisoes wedi arwain at newidiadau cadarnhaol ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches:

·         Mae llwybr gofal iechyd meddwl wedi’i greu i sicrhau bod pob ffoadur a cheisiwr lloches yn fwy ymwybodol o broblemau iechyd meddwl ac yn gallu cael diagnosis ar gyfer unrhyw gyflyrau ar gam cynnar er mwyn eu trin cyn gynted â phosibl.

 

·         Lluniwyd y pecyn ‘Croeso i Gymru’ a’i ddosbarthu i sicrhau bod gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches wybodaeth hawdd ei deall am eu cartref newydd.

 

·         Darparwyd hyfforddiant drwy Dynamix i addysgu gweithwyr proffesiynol allweddol sy’n gweithio ym maes iechyd, tai a gwasanaethau cymdeithasol ar faterion sy’n effeithio ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

 

·         Mae’r prosiect Gwasanaethau Mudo yng Nghymru wedi llunio ystod o friffiau polisi er mwyn sicrhau bod gwybodaeth gyfoes am bolisïau a deddfwriaethau ar gael i ddarparwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid eraill. Ymhlith y briffiau a gyhoeddwyd (yn Saesneg yn unig) mae’r canlynol:

o   Y Fframwaith Cyfreithiol a’r Dewisiadau sydd ar gael i Fenywod a Merched Mudol yng Nghymru sy’n Dioddef Trais

o   Mudwyr sy’n gadael gofal: Dyletswyddau awdurdodau lleol yng Nghymru o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

o    Datblygu Dull Strategol o Integreiddio yng Nghymru: Adnodd ar gyfer awdurdodau lleol

o   Oedolion mudol sengl: Tlodi, diogelu a gwasanaethau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

 

·         Lluniodd Cyngor Ffoaduriaid Cymru daflen ar Droseddau Casineb a fydd yn cael ei chyfieithu i 3 prif iaith. Datblygwyd y daflen hon mewn partneriaeth â Cymorth i Ddioddefwyr, Heddlu Gwent, Y Groes Goch Brydeinig a cheiswyr lloches a ffoaduriaid o Ganolfannau Oasis a Trinity yng Nghaerdydd, yn ogystal â rhai o ddosbarthiadau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill Cyngor Ffoaduriaid Cymru. Dosbarthwyd y daflen yn eang i ddarparwyr gwasanaethau perthnasol ac i ddefnyddwyr gwasanaethau yn ystod Wythnos Troseddau Casineb ym mis Hydref.

Cyhoeddwyd y cynllun cyflawni ar gyfnod o newid sylweddol mewn perthynas â pholisi ffoaduriaid a cheiswyr lloches Llywodraeth y DU. Mae nifer o gynlluniau newydd wedi’u lansio y bydd cynllun wedi’i ddiweddaru yn ceisio mynd i’r afael â hwy. Ymhlith y cynlluniau hyn mae’r canlynol:

·         Y Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol ar gyfer Plant ar eu pen eu hunain yn Ceisio Lloches

·         Cynllun Ailsefydlu Plant sy’n Agored i Niwed

·         Plant ar eu pen eu hunain yn Ewrop (yn cynnwys diwygiad ‘Dubs’ a Phrotocolau Dublin III)

 

Mae’r datblygiadau hyn wedi effeithio’n sylweddol ar y cynllun cyflawni. Yn unol â hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi nifer o fesurau ychwanegol ar waith nas rhagwelwyd pan gyhoeddwyd y cynllun ar gyfer ymgynghori ar ddechrau 2016.

Er mwyn helpu awdurdodau lleol i gyfranogi’n effeithiol mewn cynlluniau sy’n cefnogi’r broses o ailsefydlu plant ar eu pen eu hunain, mae Llywodraeth Cymru wedi creu dull byrdymor er mwyn cynyddu capasiti gofal cymdeithasol. Yn ogystal, cytunwyd ar £350,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn datblygu dull rhanbarthol o gynyddu capasiti gofal cymdeithasol er mwyn helpu i integreiddio plant ar eu pen eu hunain o fewn cymunedau yng Nghymru. Bydd hyn yn ategu’r broses barhaus o nodi lleoliadau, gwella gwybodaeth ac arbenigedd gwaith cymdeithasol, hyrwyddo’r broses o recriwtio a hyfforddi gofalwyr maeth a hyrwyddo’r ddealltwriaeth o anghenion ieithyddol a diwylliannol. Mae is-grŵp plant o’r Tasglu Ffoaduriaid wedi’i sefydlu hefyd i ategu’r gwaith o gydgysylltu’r cynlluniau hyn ar draws gwasanaethau cymdeithasol.

 

Y cymorth ac eiriolaeth sydd ar gael i blant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches yng Nghymru

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn darparu’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru ac yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt hyrwyddo llesiant y rhai y mae angen gofal a chymorth arnynt. Mae’r Cod Ymarfer ar ran 10 o’r Ddeddf yn gosod yr amgylchiadau lle y gallai fod angen gwasanaethau eiriolaeth ar unigolion, yn cynnwys plant a phobl ifanc, ac yn nodi pryd y mae’n rhaid i awdurdod lleol ddarparu gwasanaeth eiriolaeth.

Mae dau o’r sefydliadau a ariennir ar hyn o bryd o bryd o dan y Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant, Prosiect y Drindod a Chyngor Ffoaduriaid Cymru, wedi darparu cymorth ar gyfer eiriolaeth, yn cynnwys ar gyfer plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches. Caiff y prosiectau eu hariannu i gynyddu mynediad i gymorth a chanllawiau arbenigol ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid o’r diwrnod y byddant yn cyrraedd Cymru.

Hyd fis Ebrill 2016, roedd Tros Gynnal yn cynnal prosiect eiriolaeth ar gyfer plant sy’n ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n byw yng Nghymru. Hysbyswyd Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2015 bod y cyllid ar gyfer y prosiect hwn yn dod i ben ond bod cronfeydd i roi cymorth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches eisoes wedi’u neilltuo o dan y Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant hyd fis Ebrill 2017.

Rydym wedi ymateb i’r bwlch mewn gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar blant drwy gynnwys yn benodol yr angen am wasanaethau eiriolaeth i blant sy’n ceisio lloches yn y fanyleb contract ar gyfer y gwasanaeth cyngor ac eiriolaeth newydd i ffoaduriaid, ceiswyr lloches a mudwyr a gaiff ei lansio ym mis Ebrill 2017.

Rôl ac effeithiolrwydd Cynllun Cyflawni Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth Cymru wrth sicrhau bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn integreiddio yng nghymunedau Cymru

Mae’r Cynllun Cyflawni Cydlyniant Cymunedol yn cynnwys canlyniad penodol sy’n ymwneud â chefnogi’r broses o gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae’r 8 Cydgysylltydd Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, hefyd yn chwarae rôl bwysig yn y gwaith o gydgysylltu ymdrechion i ailsefydlu ffoaduriaid ledled Cymru.

Mewn perthynas â’r Rhaglen Ailsefydlu Pobl o Syria, mae Cydgysylltwyr Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol yn:

·         Arwain ar gyfathrebu gyda’r Swyddfa Gartref, partneriaid lleol a chyrff iechyd ynghylch derbyn achosion yn cynnwys trafodaethau gyda’r Swyddfa Gartref ar achosion a ddyrennir.

·         Darparu dull parhaus o reoli’r cymorth mae awdurdodau lleol yn ei ddarparu i bob achos ailsefydlu.

·         Mewn rhai achosion, yn gweithredu fel swyddogion derbyn arweiniol ar gyfer achosion UNHCR sy’n cael eu hatgyfeirio.

·         Cynnal grwpiau adolygu achosion ar bob achos ailsefydlu.

·         Cyflawni gwaith paratoi sy’n cynnwys caffael eiddo a’i adnewyddu os bydd angen.

·         Cynnal ymarferion recriwtio i sefydlu tîm Rhaglen Ailsefydlu Pobl o Syria – gan recriwtio cydgysylltydd rhaglenni a gweithwyr cymorth.

·         Ymgysylltu â gwirfoddolwyr lleol a grwpiau Trydydd Sector er mwyn darparu eitemau ar gyfer tai a chydgysylltu cymorth gan wirfoddolwyr ar gyfer y Rhaglen Ailsefydlu Pobl o Syria.

·         Ategu’r broses o sefydlu darpariaeth leol Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill.

·         Gweithio gydag ysgolion perthnasol i baratoi staff ar gyfer newydd-ddyfodiaid.

·         Mynd i’r afael â phroblemau sydd wedi codi mewn perthynas â’r rhaglen.

·         Cyfrannu’n rheolaidd at Grŵp Gwasgaru Awdurdod Lleol Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru.

·         Darparu papurau briffio i aelodau Cabinet awdurdodau lleol.

Mae’r adborth rydym wedi’i dderbyn gan yr UNHCR a thrwy adroddiadau newyddion gan gymunedau ledled Cymru (y cyfeirir atynt uchod) yn dangos bod y broses o ailsefydlu ffoaduriaid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi cael ei chyflawni’n effeithiol.

Ar hyn o bryd, mae’r Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant yn ariannu Cyngor Ffoaduriaid Cymru i ddatblygu rhaglenni’r cyfryngau sy’n hyrwyddo arfer da drwy herio achosion o wahaniaethu yn erbyn ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Caiff Cyngor Ffoaduriaid Cymru hefyd ei ariannu i hyrwyddo amrywiaeth a chydlyniant drwy ddathliadau blynyddol yr Wythnos Ffoaduriaid.

Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi llunio canllaw sy’n dwyn y teitl ‘A guide when making media representations with Asylum Seekers and Refugees in Wales’. Gweithiodd gyda’r BBC hefyd i greu rhaglen ddogfen a oedd yn olrhain bywyd a thaith Ffoaduriaid o Syria sydd yma neu a ddaeth i’r DU ar y Rhaglen Ailsefydlu. Roedd y rhaglen yn sôn am aduniad un teulu a bywyd yn y DU ar gyfer teulu arall a rhoddodd wybodaeth am yr hyn y mae gan ffoaduriaid yn y DU yr hawl iddo.

 

Mae Canolfan Trinity wedi’i hariannu i gynnal cyfres o brosiectau i ddymchwel y rhwystrau rhwng cymunedau yng Nghaerdydd, gan gynnwys creu tîm pêl-droed, y prosiect ‘Cerddoriaeth heb Ffiniau’ a mentrau eraill.

 

Mae’r prosiectau hyn hefyd wedi cyfrannu at ganlyniadau cadarnhaol o dan Faes Gweithredu 8 y cynllun cyflawni ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches drwy roi cyfleoedd i’r unigolion hyn gymryd rhan mewn rhaglenni sy’n gwella eu llesiant ac yn cefnogi integreiddio i’r gymuned.

 

 

Carl Sargeant AC

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Ionawr 2017



[1] http://www.wrexham.com/news/syrian-refugee-families-praise-generous-wrexham-as-second-phase-to-get-green-light-123934.html

 

[2] http://www.huffingtonpost.co.uk/entry/syrian-refugees-hand-out-flowers-in-aberystwyth-to-thanks-welsh-community-for-welcoming-us_uk_57863bf3e4b08078d6e7b167

 

[3] http://www.southwales-eveningpost.co.uk/swansea-city-of-sanctuary-goes-to-parliament-to-raise-awareness-of-the-struggles-of-asylum-seekers/story-29944408-detail/story.html